Y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Equality, Local Government and Communities Committee
ELGC(5)-04-17 Papur 5/ Paper 5
Annwyl Naomi
Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru
Yr wyf yn ddiolchgar ichi am gymryd rhan yn yr ymchwiliad uchod gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ac yn arbennig am y dystiolaeth lafar a ddarparwyd gennych ar 15 Rhagfyr.
Mae'r Pwyllgor bellach wedi cael tystiolaeth ysgrifenedig gan Grŵp Clearsprings am lety i geiswyr lloches, a byddem yn gwerthfawrogi eglurhad gennych ar y materion canlynol:
· Dywedodd Grŵp Clearsprings (mewn llythyr dyddiedig 18 Ionawr, sydd ar gael yn http://senedd.assembly.wales/documents/s58362/Clearsprings%20Ready%20Homes%20Ltd%20to%20Chair%20-%2018%20January%202017.pdf ) fod gan awdurdodau lleol "reolaeth lawn dros y tai sy'n cael eu defnyddio i gartrefu ceiswyr lloches mewn perthynas â rheoliadau trwyddedu". Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau sut y mae awdurdodau lleol yn sicrhau bod llety i geiswyr lloches yn bodloni gofynion y gyfraith tai yng Nghymru, ac a ydynt yn cael unrhyw gymorth gan y Swyddfa Gartref neu Lywodraeth Cymru i gyflawni eu cyfrifoldebau.
· Hefyd, haerodd Grŵp Clearsprings yn y llythyr fod yn rhaid i'r cwmni gael caniatâd gan "yr Awdurdod Lleol a'r Heddlu Lleol" cyn y gellir defnyddio tŷ i gartrefu ceiswyr lloches. Byddwn yn ddiolchgar o gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â pha sicrwydd y mae awdurdodau lleol yn ei geisio er mwyn rhoi caniatâd o'r fath, a sut y mae'r heddlu'n cymryd rhan yn y broses.
· Byddai'r Pwyllgor hefyd yn hoffi gwybod sut y mae awdurdodau lleol yn cymryd rhan yn y broses o ddyfarnu contractau llety i geiswyr lloches.
Er mwyn galluogi'r Pwyllgor i gwblhau’r ymchwiliad mewn modd amserol, byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymateb erbyn dydd Iau 2 Chwefror.
Yn gywir
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.